Fel rhan o’r dathliadau i nodi chwarter canrif o gyhoeddi cylchgrawn Golwg, bydd noson gomedi yn cael ei chynnal yn Theatr Felin-fach ar y 5 o Fedi.

Bydd cwis dychanol ‘Golwg Go Whith’, o dan ofal Gary Slaymaker, yn edrych yn ôl ar rai o’r penawdau, erthyglau a lluniau sydd wedi ymddangos yn y cylchgrawn dros y 25 mlynedd diwethaf.

Mae’r noson gomedi yn rhan o benwythnos o weithgareddau Gŵyl Golwg gyda gig yn Neuadd y Celfyddydau’r Brifysgol yng nghwmni Cowbois Rhos Botwnnog, Bob Delyn a’r Ebillion ac Elin Fflur ar nos Wener, Medi 6.

Ymysg y wynebau adnabyddus fydd yn cymryd rhan yn y cwis mae Ifan Gruffydd, Eirlys Bellin, Heledd Cynwal ac Iwan John. Dywedodd y cwis feistr, Gary Slaymaker, “Mae pawb yn gyfarwydd â chwisiau panel dychanol fel Have I Got News For You a Mock The Week, a bydd Golwg Go Whith yn efelychu rhaglenni fel rhain i raddau, ond mewn ffordd Gymreig iawn.”

Nod y cwis fydd ceisio gosod eitemau archif mewn cyd-destun, boed hynny’n destun cywir neu beidio. Ychwanegodd Gary Slaymaker, “Mae’n bwysig nodi achlysur chwarter canrif y cylchgrawn materion cyfoes, Golwg, a bydd y noson yma’n ffordd ysgafn o wneud hynny.”

Bydd mwy o wybodaeth am yr ŵyl yn cael ei gyhoeddi dros y bythefnos nesaf.