Fe fydd y rhan fwya’ o Gymru yn gweld peth glaw yn ystod y dydd heddiw – a hynny ar ôl pythefnos o dywydd crasboeth.

Mae rhagolygon y tywydd yn addo cawodydd trymion, yn lledu o’r de, gydag ambell i storm mellt a tharanau hefyd.

Fe fydd y tymheredd yn y dydd, ar ei ucha’, yn cyrraedd 22 gradd Celsius. Ond mae’n addo noson o 14 gradd, a fydd yn ei gwneud hi’n haws cysgu.