Campws newydd i'r brifysgol
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu buddsoddi £35 miliwn er mwyn codi Campws Ymchwil ac Arloesedd newydd yng Ngogerddan.

Mae’r datblygiad wedi derbyn £14.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth Biotechnoleg a Biolegol.

Daeth y cyhoeddiad am y nawdd heddiw gan Weinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth Llywodraeth Prydain, David Willetts.

Bydd £2.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn datblygu Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran, fydd yn canolbwyntio ar amaethyddiaeth yr ucheldir.

Mae Gogerddan yn gartref i’r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, sy’n werth £6.8 miliwn, ac mae’n cynnwys y tŷ gwydr ymchwil mwyaf datblygedig yng ngwledydd Prydain.

‘Safleoedd blaengar’

Dywedodd y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts: “Mae gan Brydain y potensial i arwain y byd ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg amaethyddol, ac eto mae twf ein cynhyrchiant wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

“Bydd y safleoedd blaengar yma yn gymorth i wyrdroi’r duedd honno drwy gael ein hymchwilwyr a’n busnesau i weithio gyda’i gilydd er mwyn masnacheiddio eu syniadau.

“Mae hyn yn hanfodol ar gyfer ein heconomi a diogelwch bwyd yn y dyfodol, a dyna pam yr ydym yn lansio’r Strategaeth Amaeth-Dechnoleg.”

‘Newyddion gwych’

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon: “Mae hyn yn newyddion gwych i Aberystwyth ac i’r Brifysgol.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda’r BBSRC wrth gyflawni’r prosiect gwych hwn, gan adeiladu ar ein profiadau cadarnhaol iawn gydag adeiladau newydd IBERS a’r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol.

“Bydd y Campws newydd yn hwb i’n cydweithio â busnesau, gan gynnwys darparu gofod i gwmnïau sy’n cychwyn, ac yn ein galluogi i gynnig hyfforddiant rhyngddisgyblaethol newydd.

“Mae cysylltiad agos rhwng y buddiannau yma ac amcanion ein Cynllun Strategol  a byddant yn datblygu ymhellach apêl y rhan eithriadol hon o Gymru.”

Gallai’r gwaith o adeiladu’r campws ddechrau yn 2014 a gorffen yn 2015.