Dywedodd awdur Llyfr y Flwyddyn wrth Golwg360 mai cofnodi hanes ei famgu mewn gwersyll crynhoi oedd ei brif ysgogiad wrth lunio’r gyfrol fuddugol.

‘Yr Erlid’ gan Heini Gruffudd gipiodd y brif wobr yn seremoni Llyfr y Flwyddyn yng Nghaerdydd neithiwr.

Cafodd y gyfrol ei chyhoeddi gan ‘Y Lolfa’, cwmni brawd Heini, Robat.

Dywedodd: “Ro’n i’n awyddus i gofnodi’r hanes i’r teulu ac i’r genhedlaeth nesa’.

Un o’r prif anawsterau wrth bori trwy’r dystiolaeth am hanes ei famgu, yn ôl Heini, oedd y ffaith fod cymaint o’r dogfennau wedi’u llunio yn Almaeneg.

“Mae cannoedd os nad miloedd o ddogfennau am y cyfnod, ond maen nhw bron iawn i gyd yn Almaeneg.

“Wnaeth fy mhlant rywfaint o Almaeneg yn yr ysgol, ond mae’n bosib na fydd yr iaith yn cael ei throsglwyddo eto.”

Dywedodd ei fod yn ymwybodol o’r “ffeithiau moel”, ond roedd e am fynd ar drywydd “yr amgylchiadau y tu ôl i’r carcharu”.

Yn ôl Heini, fe gafodd gyfle i “ail-fyw profiadau” ei famgu wrth lunio ‘Yr Erlid’.

“Mae yma ddioddefaint mor bersonol. Roedd brodyr fy mamgu hefyd wedi bod yn y carchardai yma ac yn ffodus, wedi cofnodi rhywfaint o’u hanes nhw hefyd.”

“Dim ond un cyfle fydd gen i i lunio cyfrol fel hon, ac rwy’n ostyngedig am y gydnabyddiaeth iddi.”

Roedd Heini hefyd yn awyddus i gydnabod llwyddiant rhai o’r awduron ifanc ar y noson.

“Roedd y ffaith fod cymaint o bobol ifanc ar y brig yn codi calon, yn enwedig Aneirin Karadog a Manon Steffan Ros.

“Dw i ddim yn gwarafun dim iddyn nhw.”