Rhan o glawr Yr Erlid
Roedd yna enillydd annisgwyl yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni, wrth i Heini Gruffudd gipio’r wobr o £8,000 am ei gyfrol Yr Erlid.

Roedd y rhan fwya’ o’r beirniaid answyddogol a’r rhan fwya’ o bleidleiswyr ar-lein wedi sôn am  Trydar mewn Trawiadau, cyfrol farddoniaeth Twitter Llion Jones, neu’r nofel Blasu gan Manon Steffan Ros.

Ond y gyfrol ffeithiol gan yr awdur o Abertawe aeth â hi – mae’n sôn am stori mam Heini Gruffudd, y llenor Kate Bosse-Griffiths yn cael ei herlid yn yr Almaen adeg y Natsïaid.

Roedd wedi cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa, y wasg a sefydlwyd gan frawd Heini Gruffudd, Robat, ac sy’n dal yn nwylo’r teulu.

Roedd rhaglen deledu am yr un stori eisoes wedi cael canmoliaeth fawr.

Barn y Bobol

Trydar mewn Trawiadau oedd enillydd tlws Barn y  Bobol, trwy bleidlais ar Golwg360, ond wnaeth honno ddim ennill y categori barddoniaeth chwaith, gyda’r £2,000 yn mynd i O Annwn i Geltia, cyfrol gyntaf Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog.

Fe ddaeth Blasu yn gynta’ yn y categori ffuglen a dod yn ail ym mhleidlais y bobol.

Gwobr Saesneg am gyfrol gynta’

Awdur newydd a enillodd y brif wobr Saesneg – mae Rhian Edwards wedi cael gwobrau mawr am berfformio’i barddoniaeth ond Clueless Dogs yw ei chyfrol gynta’. Hi a enillodd y bleidlais boblogaidd hefyd.