Dail yr onnen
Mae’n ymddangos fod wyth allan o ddeg o bobl yn y DU ddim yn gallu adnabod dail o goed ynn tra mai dim ond hanner oedolion Prydain sy’n gallu adnabod y dderwen.

Yn ôl arolwg gan YouGov a gomisiynwyd gan Goed Cadw, mae’r ffaith nad yw 83% o bobl ym Mhrydain yn gallu adnabod deilen yr onnen wrth weld llun ohoni yn arwydd o’r pryder sy’n bodoli ynglŷn â dyfodol coed cynhenid yn y DU.

Mae Coed Cadw, sy’n gwarchod coed a choetir, yn rhybuddio y bydd hi’n amhosib delio â’r bygythiadau sy’n wynebu coed ym Mhrydain os nad yw pobl yn cael eu haddysgu ar sut i adnabod y gwahanol fathau yn iawn.

Dywedodd Pennaeth Cadwraeth Coed Cadw, Austin Brady: “Rydym yn dibynnu ar bobl i adrodd unrhyw arwyddion o haint yn eu coedwig leol, felly pe bai mwy o bobl yn gallu adnabod coed cyffredin megis coed ynn a choed derw, byddai’n ei gwneud yn haws i fynd i’r afael a lledaeniad heintiau.”

Mae’n ymddangos fod pobl hŷn yn llawer mwy tebygol o fedru adnabod coed o gymharu â’r genhedlaeth iau, gyda dim ond 10% o bobl ifanc rhwng 18 – 24 yn gallu adnabod dail ynn  tra bod 23% o bobl dros 55 yn eu hadnabod.

Mae Coed Cadw wedi sefydlu gwefan newydd LoveitorLoseit.org i helpu pobl adnabod coed a’r math o heintiau sy’n gallu effeithio arnyn nhw ynghyd a chyd-weithio â’r naturiaethwr Simon King i egluro’r gwahaniaeth rhwng coed ynn a choed derw.