Tlws Barn y Bobl 2013 sydd wedi'i greu gan Luned Henry
Dim ond dyddiau sy’n weddill i’r cyhoedd bleidleisio dros wobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2013.

Unwaith eto eleni mae’r bleidlais yn cael ei chynnal ar wasanaeth Golwg360.

Mae’r tlws eleni yn ddarn o gelf wedi’i greu gan Luned Henry, sydd ar fin graddio o Adran Gelf Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Bydd seremoni Llyfr y Flwyddyn eleni’n cael ei chynnal nos Iau nesaf, 18 Gorffennaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Steffan Rhodri a Ffion Dafis sy’n cyflwyno’r noson eleni, ac am y tro cyntaf erioed bydd cerddoriaeth fyw yn ran o’r seremoni gydag Y Niwl yn adlonni.

Gallwch bleidleisio dros wobr Barn y Bobl 2013 isod