Rod Richards
Mae’r cyn Aelod Seneddol Ceidwadol, Rod Richards, wedi datgan  ei fod wedi ymuno a phlaid wleidyddol UKIP.

Roedd Rod Richards yn AS dros Orllewin Clwyd rhwng 1992 a 1997  a fo oedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig pan sefydlwyd y Cynulliad yn 1999.

Dywedodd Rod Richards ar y Post Cyntaf y bore ma bod ei “rwystredigaeth” gyda phleidiau eraill yn rhan o’i benderfyniad i ymuno a phlaid Nigel Farage.

Ychwanegodd fod y blaid yn “adlewyrchu beth rydw i’n meddwl”.

Ond, pan ofynnwyd iddo a oedd yn bwriadu sefyll dros UKIP yn etholiadau Ewrop y flwyddyn nesaf wedi i ASE presennol UKIP Cymru, John Bufton, gyhoeddi na fydd yn sefyll ym mis Mehefin 2014, dywedodd: “Rwy’n aelod newydd o’r blaid ac felly rwy’n mynd i weithio fel pawb arall a bod yn weithgar. Mae’r hyn fydd yn digwydd yn y dyfodol yn fater i’r blaid.”