Wikimedia yn penodi Cymro fel rheolwr

Diweddarwyd am  


Robin Owain
Mae Wikimedia wedi penodi Robin Owain fel eu rheolwr cyntaf yng Nghymru.

Mewn cytundeb sydd i bara’ deuddeg mis, bydd Robin Owain yn arwain cynllun i ehangu’r Wicipedia Cymraeg a’r Wikipedia Saesneg yng Nghymru. Bydd yn rhan o brosiect ‘Llwybrau Byw’ sy’n cynnwys ysbrydoli a hyfforddi golygyddion newydd ledled Cymru.

Dywedodd Robin Owain: “Mae mynd i mewn i ganol y gweithgareddau gan ddangos i werin Cymru be allant wneud yn rhoi byz anhygoel i mi; gall bawb fod yn awdur, yn gyhoeddwr ac yn addysgwr drwy gyfrwng Wicipedia, a rhoi yn ôl rhywbeth gwerthfawr iawn i gymdeithas.”

Mae  Prif Weithredwr Wikimedia UK, Jon Davies wedi croesawu penodiad Robin Owain. Meddai: “Mae penodiad Robin fel ein rheolwr yng Nghymru yn rhan hanfodol o’n strategaeth. Er gwaetha’r ffaith fy mod yn hanner Cymro fy hun, mae fy ngwybodaeth o’r Gymraeg yn fach ond dwi’n falch fy mod yn gallu cynorthwyo i’w bywiogi fel hyn.”

Wicipedia Cymraeg yw’r wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd ac mae’n rhan o gwmni Wikimedia UK, elusen restredig sy’n casglu, datblygu a didoli gwybodaeth.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones