Gweithio ar y set yng Nghaerdydd
Mae ffans sioeau cerdd wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am y sioe newydd Charlie and the Chocolate Factory sydd i’w gweld am y tro cyntaf yn y West End yr wythnos hon.

Wrth wylio’r sioe, mi fydden nhw’n cael y cyfle i weld ffrwyth dawn tîm Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae rhannau o’r set wedi cael eu creu yng ngweithdy Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Maen nhw wedi bod yn gweithio ar y set ers mis Mawrth eleni, gan gynnwys cynnwys pont enfawr, peipiau ffatri anferth, a’r porth siocled sy’n adnabyddus i bawb sy’n gyfarwydd â stori Roald Dahl am Charlie a’r ffatri siocled.

Mae’r holl ddarnau hyn o’r set wedi cael eu creu yng Nghaerdydd cyn cael eu cludo i’r Theatr Royal yn Drury Lane i’w gosod yn eu lle ar gyfer y sioe.

Mae’r sioe yn cael ei chyfarwyddo gan Sam Mendes, cyfarwyddwr uchel ei barch ym myd y ffilm a theatr.

Fel arfer, mae gweithdy Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflogi 18 aelod o staff. Ond ar gyfer y prosiect hwn, mi wnaethon nhw gyflogi mwy o staff. Mae 70 o bobl wedi gweithio ar y prosiect i gyd.

Yn y gorffennol, mae’r gweithdy wedi creu setiau ar gyfer Opera Glyndebourne a’r Met yn Efrog Newydd. Fe wnaethon nhw greu pyramid hefyd ar gyfer y seremoni oedd yn cloi’r Gemau Olympaidd yn Llundain y llynedd.