Ieuan Wyn Jones
Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Ieuan Wyn Jones wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd yn syth gan olygu y gallai arwain at isetholiad yno mor fuan â 1 Awst.

Fe gyhoeddodd yr AC ddydd Mawrth ei fod yn gadael y Cynulliad er mwyn dechrau swydd fel Prif Weithredwr Parc Gwyddoniaeth Menai.

Mae Ieuan Wyn Jones wedi rhoi gwybod i Lywydd y Cynulliad heddiw ei fod yn sefyll i lawr o’r Cynulliad ar unwaith.

Mae wedi mynegi ei ddymuniad i gynnal isetholiad yn gynnar, ar 1  Awst er mwyn caniatáu i Aelod Cynulliad newydd gael ei ethol cyn dechrau tymor newydd y Cynulliad.

Mae Ieuan Wyn Jones wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999. Bu’n ddirprwy brif weinidog Llywodraeth Glymblaid Cymru’n Un gyda Llafur yn 2007.

Cafodd ei olynu fel arweinydd Plaid Cymru gan Leanne Wood ym mis Mawrth y llynedd.

‘Isetholiad cynnar fyddai orau’

Dywedodd Ieuan Wyn Jones: “Rwy’n ddiolchgar iawn an y negeseuon o gefnogaeth yr wyf wedi derbyn am fy rôl newydd. Rydw i wedi ymrwymo’n llwyr i weithio’n galed i sicrhau fod y prosiect yn cyrraedd ei lawn botensial i economi y gogledd-orllewin. Gan fy mod yn dechrau fy rôl newydd yn yr haf, ac yn dilyn trafodaethau gyda phobl yn lleol ac yn y Cynulliad, teimlaf mai isetholiad cynnar fyddai orau.

“Am y rhesymau hyn, rydw i wedi rhoi gwybod i’r Llywydd heddiw fy mod i’n bwriadu sefyll i lawr o’r Cynulliad ar unwaith. Bydd hyn yn caniatáu ethol AC newydd yn gynnar, ac yn gadael i’r AC hwnnw ddod i arfer â’r swydd dros wyliau’r haf er mwyn bod yn barod ar gyfer tymor newydd prysur y Cynulliad ym mis Medi.

“Hoffwn ddiolch i bawb am bob cefnogaeth wythnos yma, ac am eu dymuniadau da wrth i mi gymryd fy rôl newydd. Mae fy mhenderfyniad wedi ei yrru gan fy nymuniad i gymryd rôl flaenllaw wrth wella economi y gogledd-orllewin, a gallaf nawr ddechrau ar y gwaith hynny cyn gynted â phosib.”

Ymateb PAWB

Mae aelodau mudiad gwrth niwclear wedi lleisio pryder am gysylltiad swydd newydd Ieuan Wyn Jones a’r diwydiant niwclear.

Dywedodd mudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa B) mewn datganiad heddiw bod cefnogaeth Ieuan Wyn Jones fel AC i Wylfa B wedi bod yn “siomedig”.

Ond maen nhw’n “dymuno’n dda” i Ieuan Wyn Jones yn ei yrfa newydd ac yn hyderus y bydd ei olynydd yn sefyll yn gryf yn erbyn datblygiad posibl atomfa Wylfa B.

Dywedodd y datganiad: “Bydd mudiad PAWB yn fodlon cydweithredu a’r Aelod Cynulliad newydd os bydd yn fodlon cydnabod fod yna garfan luosog o bobl sy’n gwrthwynebu datblygu Wylfa B.”

Ond gan mai Prifysgol Bangor yw perchennog Parc Gwyddoniaeth Menai, mae gan PAWB amheuon y bydd gormod o bwyslais yn cael ei roi gan y parc ar gefnogi Wylfa B.