Gai Toms - rhan o dîm 'Blodyn'
Mae fersiwn cymunedol, cyfoes o stori Blodeuwedd yn cael ei llwyfanu mewn dau bentre’ yng Ngwynedd yr wythnos hon.

Mae’r ddrama ‘Blodyn’ yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng pobol Blaenau Ffestiniog a Tal-y-sarn a chriw y Theatr Genedlaethol. Mae’n digwydd ychydig wythnosau cyn i’r cwmni proffesiynol deithio ‘Blodeuwedd’ Saunders Lewis.

Mae sawl enw adnabyddus ym myd perfformio ynghlwm â’r ddrama gymunedol, yn cynnwys y cerddor Gai Toms, y coreograffydd Sarah Mumford a’r gwneuthurwr ffilm Owain Llyr.

“Mae’n gyffrous iawn i fod yn creu rhywbeth ar raddfa mor fawr ym Mlaenau a Talysarn,” meddai’r awdur, Bethan Marlow.

“Gobeithio y byddwn yn cyd greu rhywbeth unigryw a fydd yn effeithio ar, ac yn rhoi llais i’r ddwy ardal mewn ffordd fydd pobl heb ei weld o’r blaen.”   

Rhwystredigaeth, hwyl a chyfrinachau

Mae’r ddrama ‘Blodyn’ yn dilyn hynt a helynt bywydau Blodyn, Llion a Ger wrth iddyn nhw geisio delio gydag unigedd, cariad a di-weithdra.

Gyda Gai Toms, mae yna anthem wedi’i chreu sy’n gymysgedd o gorau lleol, bandiau pres ac actorion proffesiynol.

Bydd y perfformiadau yn digwydd yn yr awyr agored – ddydd Iau a dydd Gwener yn Tal-y-sarn, a ddydd Sadwrn a dydd Sul yn Blaenau Ffestiniog. 

I ganfod mwy am Blodyn ewch i www.theatr.com.