Daeth mwy nag erioed i'r Sioe yn Llanelwedd y llynedd
Llwyddodd y Sioe Fawr i ddenu mwy nag erioed o ymwelwyr y llynedd gyda bron i chwarter miliwn wedi dod i Lanelwedd dros y pedwar diwrnod.

Mewn cyfarfod o fwrdd cyfarwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gae Sioe sir Fôn ger Gwalchmai neithiwr, cyhoeddodd y cadeirydd newydd, John T Davies, fod y Gymdeithas wedi gorffen y flwyddyn gyda £89,578 o elw.

Roedd tri phrif ddigwyddiad y Gymdeithas – Gŵyl y Gwanwyn, y Sioe Frenhinol a’r Ffair Aeaf – wedi gwneud elw’r llynedd, meddai.

“Gyda help ein haelodau a chefnogaeth y cyhoedd, dw i’n hyderus y bydd y gymdeithas yn parhau i ffynnu a llwyddo,” meddai John T Davies.

Sir Fôn yw sir nawdd y Sioe Frenhinol eleni.