Yr ap newydd
Bydd ap newydd y cymeriad lliwgar a phoblogaidd, Rwdlan, yn cael ei lansio yn Ysgol Gynradd Llanrug heddiw.

Bydd yr ap ar gael ar ddyfeisiadau iPad a mini iPad ac mae wedi cael ei greu gan gylchgrawn ‘Wcw a’i Ffrindiau’.

Mae Ysgol Llanrug yn gartref i ganolfan hyfforddi swyddogol Apple – yr unig ganolfan cyfrwng Gymraeg o’i fath – ac mae’n le perffaith i’w lansio yn ôl Owain Schiavone sy’n gyfrifol am ddatblygu’r ap ar ran cyhoeddwr ‘Wcw a’i Ffrindiau’,  Golwg Cyf.

“Mae Ysgol Gynradd Llanrug yn addas iawn fel lleoliad ar gyfer lansiad yr ap newydd yma ar gyfer plant bach,” meddai Owain Schiavone.

“Dyma’r ap cyntaf i ni greu ar gyfer ein cylchgrawn plant felly mae’n ddatblygiad cyffrous iawn, ac mae’r ganolfan wych yma yn Ysgol Llanrug yn lle perffaith i arddangos ‘ap wcw: rwdlan’ i’r gynulleidfa darged.”

Amserol

Mae antur Rwdlan i’r byd digidol yn amserol iawn wrth i’r cymeriad poblogaidd a grëwyd gan Angharad Tomos ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni.

Mae anturiaethau Rwdlan wedi bod yn ganolog i gylchgrawn ‘Wcw a’i Ffrindiau’ ers dechrau cyhoeddi’r cylchgrawn ym 1996. Mae rhifyn 200 o’r cylchgrawn wedi’i gyhoeddi’r mis yma a Rwdlan yn dal i fod yn ffefryn.

“Mi gafodd cyfrol gyntaf y gyfres, sef ‘Rala Rwdins’, ei chyhoeddi ym 1983 ac mae Rwdlan wedi cael sawl antur ar sawl gwahanol gyfrwng ers hynny,” meddai Angharad Tomos.

“Mae’n amserol iawn ei bod yn camu i’r byd digidol eleni ac yn cael ei chyflwyno i gynulleidfa newydd o bosib.”

I ddathlu’r achlysur bydd Rwdlan ei hun yn ymweld ag Ysgol Gynradd Llanrug i ddangos ei ap i’r plant.

“Ap stori a lliwio ydy hwn yn ei hanfod,” meddai Owain Schiavone. “Mae nifer o straeon byrion Rwdlan i’r plant eu mwynhau, ac mae modd iddynt liwio’r lluniau wrth wneud hynny – yn debyg iawn i’r hyn mae modd iddynt wneud yn y cylchgrawn print ond mewn ffordd ddigidol a rhyngweithiol.”

Mae’r ap bellach ar gael o ap store yr iPad a’r iPad mini.