Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi enw’r dyn gafodd ei ladd mewn damwain awyren ym maes awyr Caernarfon ger Dinas Dinlle ddoe.

Roedd Iain Nuttall yn 37 oed ac yn yrrwr lori o ardal Blackburn.

Roedd tair cenhedlaeth o’r un teulu o Blackburn yn yr awyren ond dyw Heddlu’r Gogledd heb gyhoeddi enwau’r  ddau arall gafodd eu hanafu.

Mae plentyn 5  oed wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben ac mae dyn 61 oed yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol mewn uned arbennig yn yr ysbyty.

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn y ddamwain.

Credir bod yr awyren fechan wedi taro coed cyn troi drosodd wrth geisio glanio yn y maes awyr am 11.28am fore Sul.

Mae’r uned sy’n ymchwilio i ddamweiniau awyr yn cynnal ymchwiliad ac fe fydd gweddillion yr awyren yn cael eu symud i Farnborough ar gyfer ymchwiliadau pellach.

Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i’r teulu sy’n dod o Swydd Gaerhirfryn.

Apeliodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Heddlu Gogledd Cymru ar unrhyw un a welodd yr awyren wrth iddi gyrraedd y llain lanio ym Maes Awyr Caernarfon i gysylltu â’r heddlu drwy ffonio’r rhif 101.