Matthew J Watkins
Mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Matthew J Watkins, wedi datgan ei fod yn dioddef o fath prin o ganser ar ei belfis.
Mae’r canolwr 34 mlwydd oed sydd wedi chwarae i’r Scarlets, Caerloyw a’r Dreigiau yn derbyn triniaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd. Fe enillodd 19 o gapiau dros Gymru cyn ymddeol yn 2011.
Mewn datganiad gan Undeb Rygbi Cymru, dywedodd Matthew J Watkins ei fod yn parhau i fod yn weithgar a’i fod yn derbyn cefnogaeth gan ei deulu a’i ffrindiau.
Dywedodd: “Yn amlwg mae’n newyddion siomedig iawn i fi a fy nheulu ond rwy’n awyddus i symud ymlaen gyda fy nhriniaeth a brwydro’r salwch gyda’r un ymroddiad ag y rhoddais i fy ngyrfa rygbi.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynnig eu cefnogaeth a’r gefnogaeth wych rwyf wedi ei dderbyn gan y staff yn Felindre, Caerdydd.
“Rwy’n benderfynol o barhau â’m mywyd bob dydd gyda fy nheulu a ffrindiau ac yn gwerthfawrogi’r preifatrwydd a ddangoswyd yn ystod y cyfnod anodd iawn.”
‘Trist iawn’
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: “Mae ein meddyliau gyda Matthew a’i deulu ar yr adeg hynod o anodd hwn.
“Wrth ennill 19 o gapiau dros Gymru, profodd Matthew fod ganddo’r gallu i ragori ar y lefel uchaf ac roedd yn arddangos gwir ddawn Cymraeg yn ei chwarae.
“Bydd y ffrindiau a’r dilynwyr rygbi oedd yn mwynhau ei wylio’n chwarae yn drist iawn i glywed am ei salwch a gall Matthew fod yn sicr ein bod yn un wrth feddwl amdano nawr.”