Cafodd Rhestr Fer 2013 Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013 ei chyhoeddi trwy ddarllediad ar-lein arbennig heddiw.

Y cyflwynydd a’r DJ, Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno’r cyhoeddiad a gafodd ei ddarlledu ar wefan Llyfr y Flwyddyn a gwefan Pethe S4C.

Mae naw o lyfrau wedi cyrraedd y rhestr fer yn y Gymraeg a’r Saesneg. Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni yw’r awdur Alun Gibbard, y DJ a’r cyflwynydd Bethan Elfyn a’r bardd a’r cyfieithydd Elin ap Hywel.

Mae gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyflwyno yn flynyddol i’r gweithiau Cymraeg a Saesneg gorau ym myd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.  Mae’r wobr wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers 1992.

Barn y Bobl

Unwaith eto eleni, darllenwyr Golwg360 fydd yn dewis enillydd tlws ‘Barn y Bobl’ ac mae modd i chi bleidleisio isod.

Eleni, cyflwynwyd dros hanner cant o lyfrau Cymraeg cymwys, ac ohonynt dewiswyd y naw teitl canlynol yn Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013:

Rhestr Fer Barddoniaeth

Llion Jones, Trydar Mewn Trawiadau (Cyhoeddiadau Barddas)

Eigra Lewis Roberts, Parlwr Bach (Gwasg Gomer)

Aneirin Karadog, O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas)

Rhestr Fer Ffuglen

Manon Steffan Ros, Blasu (Y Lolfa)

Tony Bianchi, Ras Olaf Harri Selwyn (Gwasg Gomer)

Dewi Prysor, Cig a Gwaed (Y Lolfa)

Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol

Meic Stephens, Cofnodion (Y Lolfa)

Aled Jones Williams, Tuchan o Flaen Duw (Gwasg Carreg Gwalch)

Heini Gruffudd, Yr Erlid (Y Lolfa)

Camp Meic Stephens

Am y tro cyntaf erioed yn hanes y wobr, llwyddodd un awdur i gyrraedd y Rhestr Fer yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda dwy gyfrol wahanol. Dyma un o gyraeddiadau niferus Meic Stephens sydd â chyfraniad enfawr at ddiwylliant a llenyddiaeth Gymraeg.

Dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn rhoi cyfle i ddarllenwyr ac awduron trwy Gymru gyfan a thu hwnt i brofi cyfoeth llenyddiaeth Cymru.

“Trwy ddefnyddio platfform digidol ar gyfer cyhoeddi’r Rhestr Fer mae’n rhoi’r cyfle i ni rannu ein hetifeddiaeth lenyddol gref gyda hyd yn oed mwy o bobl ble y maent yn y byd.”

Y rhestr Saesneg

Beirniaid y llyfrau Saesneg yw Ffion Hague, Jasper Fforde a Richard Marggraf Turley a’r teitlau ar y Rhestr Fer Saesneg yw:

Rhestr Fer The Roland Mathias Poetry Award: Rhian Edwards, Clueless Dogs (Seren); Deryn Rees-Jones, Burying the Wren (Seren); Samantha Wynne-Rhydderch, Banjo (Picador).

Rhestr Fer Ffuglen: James Smythe, The Testimony (Blue Door); Gee Williams, A Girl’s Arm (Salt Publishing); Matthew Francis, Singing a Man to Death (Cinnamon Press).

Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol: John Harrison, Forgotten Footprints (Parthian); Jon Gower, Wales at Water’s Edge (Gwasg Gomer); Meic Stephens, Welsh Lives (Y Lolfa).

Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, a chyflwynir gwobr ychwanegol o £6,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith.

Caiff enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn, ynghyd ag enillydd Barn y Bobl eu cyhoeddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 18 Gorffennaf 2013. Gallwch brynu tocyn i’r seremoni am £10 trwy gysylltu’n uniongyrchol â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266.