Ruth Jones a James Corden
Mae’r gyfres gomedi boblogaidd, Gavin and Stacey, a gafodd ei ffilmio yn rhannol yng Nghymru am gael ei hailgynhyrchu ar gyfer teledu America.

Bydd enw’r rhaglen yn newid i Us and Them ond mae disgwyl i enwau’r cymeriadau fod yr un fath.

Yn y gyfres, bydd Gavin, a gafodd ei bortreadu gan Mathew Horne yn y gyfres wreiddiol, yn dod o Efrog Newydd yn hytrach na Essex a bydd Stacey, gafodd ei phortreadu gan Joanna Page, yn dod o dre fach ym Mhennsylvania yn hytrach na’r Barri.

Sony Pictures Television a BBC Worldwide sy’n cynhyrchu’r gyfres fydd yn cael ei dangos ar sianel Fox.

Mae dau o’r actorion a greodd y gyfres, James Corden a Ruth Jones, yn ogystal â Steve Coogan wedi cael eu penodi’n gynhyrchwyr gweithredol y gyfres newydd.