Mae mudiad Dyfodol yr Iaith wedi dweud y dylid rhannu Radio Cymru’n ddwy orsaf genedlaethol.

Maen nhw’n dweud y dylai’r naill dargedu pobol ifanc a’r llall fod yn wasanaeth mwy cynhwysfawr ar gyfer newyddion, drama, adloniant a cherddoriaeth.

Mewn araith, cyhoeddodd Cyfarwyddwr BBC Cymru fod y Gorfforaeth yn bwriadu cynnal ‘sgwrs’ ar ddyfodol yr orsaf.

Mae Dyfodol yr Iaith wedi awgrymu y gellir galw’r ddwy orsaf yn ‘Radio Pop’ a ‘Radio Pawb’.

Dywedodd Heini Gruffudd o’r mudiad: “Cynnig enw er mwyn tanio’r dychymyg ’yn ni.

“Wrth enwi rhywbeth fel’na efallai ein bod ni’n creu syniad am bosibilrwydd y peth”.

Darllenwch ragor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.