Bronwen Lewis
Fe wnaeth cyn-ddisgybl o Ysgol Ystalyfera ganu pennill yn Gymraeg ar raglen BBC “The Voice” neithiwr gan ddenu canmoliaeth gan y pedwar beirniad am ei llais “hudolus”.

Roedd Bronwen Lewis, 19 oed o Flaendulais ger Castellnedd wedi canu fersiwn o gân Sting sef ‘Fields of Gold’ ac wedi cyfieithu’r bennill gyntaf i’r Gymraeg.

Dywedodd ei bod yn meddwl nad yw cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chware ddigon a bod ei pherffomriad yn profi bod lle i ganu’n y Gymraeg ar oriau brig nos Sadwrn.

Roedd timau Tom Jones a Danny O’Donoghue yn llawn ond cafodd ganmoliaeth hael yn enwedig gan Syr Tom. Dywedodd y ddau feirniad arall bod eu timau nhw yn wahanol iawn o ran arddull ond roedd y cwbl yn gytun bod gyrfa iddi fel cantores ac y buasai ei pherfformiad yn sicr o ddenu sylw cwmniau recordio.