Wal y castell heb y sgaffaldiau (llun arlunydd o wefan yr Ymddiriedolaeth)
Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i’r hyn a allai fod yn olion castell gwreiddiol Yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi.

Fe gadarnhaodd yr Ymddiriedolaeth sy’n adnewyddu’r castell Normanaidd yn y dref, fod darnau o wal wedi’u dadorchuddio ac y gallai un o’r rheiny fod yn fur neuadd y castell Cymreig.

Fe allai hynny fod yr union fan lle cynhaliwyd yr hyn sy’n cael ei hystyried yn eisteddfod gynta’ Cymru yn 1176.

Mae darnau eraill yn cynnwys rhan o brif fur allanol y castell a gwaelodion tŵr – yn ôl arbenigwyr maen nhw’n gynharach na gweddill y castell ac fe allen nhw fod yn rhan o gastell yr Arglwydd Rhys yn niwedd y 12fed ganrif.

Neuadd yr Eisteddfod?

“Mae haneswyr lleol o’r farn y gallai un mur fod yn rhan o’r neuadd,” meddai Rhian Medi, swyddog addysg yr Ymddiriedolaeth.

Y tebygrwydd yw mai yn y neuadd y byddai’r beirdd a’r cantorion wedi casglu ar gyfer y gystadleuaeth fawr fwy nag 800 mlynedd yn ôl – y cofnod cynta’ sydd ar gael o ‘eisteddfod’

Fe fydd rhai o’r rhannau eraill i’w gweld gan ymwelwyr, meddai, ond fydd gwaith cloddio ddim yn atal y prosiect adnewyddu sy’n anelu at orffen erbyn mis Ebrill nesa’.

Gwybodaeeth bwysig

Mae’r Ymddiriedolaeth yn galw Castell Aberteifi yn “fan geni yr Eisteddfod” ac fe fyddai dod o hyd i dystiolaeth bendant o’r castell yn ychwanegiad pwysig at yr wybodaeth am gestyll tywysogion Cymru.

Fe allai gynyddu’r diddordeb yn y castell hefyd – ym marn Rhian Medi, mae agweddau pobol leol at y prosiect wedi newid ers i sgaffaldiau gael eu tynnu oddi ar brif wal allanol y castell Normanaidd er mwyn dangos cymaint o olion sydd yno, a chystal ydyn nhw.

Mae olion o gastell Cymreig wedi’u datgelu yn Nanhyfer hefyd.