Mae drama Wyddeleg sydd wedi ennill nifer o wobrau yn cael ei dangos ar S4C. Nid yw’r Sianel Gymraeg yn fodlon dweud faint maen nhw’n dalu am gael dangos y gyfres.

Mae Corff ac Enaid (Corp + Anam) yn dechrau nos yfory yn ystod slot sydd wedi dod yn boblogaidd ar sianel BBC4 ar gyfer dramâu trosedd o dramor.

Bydd yn parhau nos Sul, a’r ddwy bennod ola’ ar y penwythnos canlynol. Mae’r darlledu’n cyd-fynd â chynnal yr yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd yn Abertawe rhwng 24 a 26 Ebrill.

Y gohebydd troseddau Cathal Mac Iarnáin yw prif gymeriad Corff ac Enaid, wrth iddo ymchwilio i droseddau sy’n adlewyrchu agweddau tywyll cymdeithas.

Taro tant yn Iwerddon

Roedd Corp + Anam yn boblogaidd gyda gwylwyr yn Iwerddon meddai cynhyrchydd y gyfres, Paddy Hayes, o gwmni Magamedia.

“Roedd y gyfres yn taro tant am ddau reswm. Yn gyntaf mae’n bortread gonest, di-flewyn ar dafod o’r drwg sy’n llechu yn ein cymdeithas, gydag elfen o realaeth sydd ddim yn aml yn cael ei weld ar deledu.”

“Yn ail, roedd rhai o’r amgylchiadau yn y gyfres wedi eu seilio’n fras ar straeon newyddion diweddar fu’n destun trafod yn Iwerddon.  Rwy’n credu bod hynny wedi cael effaith ddiddorol ar y gynulleidfa – wrth wylio’r rhaglenni roeddech chi’n cael eich atgoffa o’r digwyddiadau hynny ac yn sylweddoli y gallan nhw ddigwydd, a’u bod nhw wedi digwydd.”

Isdeitlau – cynulleidfa’n fwy parod

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, fod “llwyddiant rhaglenni tebyg o wledydd tramor yn dangos fod y gynulleidfa yn fwy parod nag erioed i wylio rhaglenni o safon gydag isdeitlau.”

Dywedodd llefarydd ar ran S4C wrth golwg360 nad oedden nhw’n medru rhyddhau gwybodaeth fasnachol am y gost o brynu’r gyfres gan y cynhyrchwyr o Iwerddon.

Corff ac Enaid, nos Sadwrn a nos Sul yma am ddeg o’r gloch ar S4C, ac yn parhau’r penwythnos canlynol.