Mae Cyngor Sir Gâr wedi galw am gyfarfod brys gyda’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford i drafod cyflwr “enbyd” y gwasanaethau iechyd yn y sir.

Roedd y Cyngor llawn wedi derbyn yn unfrydol  cynnig gan Blaid Cymru y dylid cwrdd â Mark Drakeford i fynegi pryder am y newidiadau i’r gwasanaeth iechyd sy’n cael eu hargymell  gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda.

Byddan nhw’n gofyn i’r Gweinidog Iechyd i ymateb i’r pryderon am y bwriad i leihau lefel y gwasanaeth brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli.

Mae’r adran yn cael ei ad-drefnu fel rhan o gynlluniau ehangach i ad-drefnu’r gwasanaethau iechyd o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae’r cynlluniau wedi cael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru.

‘Brwydr gyson’

Dywedodd y cynghorydd Gwyneth Thomas, sy’n nyrs yn Adran Argyfwng Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli: “Mae’n frwydr gyson i ymdopi a’r sefyllfa ac mae’r staff yn eithriadol ddigalon.

“Rwyf i fy hun wedi bod yn agos at ddagrau.

“Ar brydiau bydd tri ambiwlans yn aros y tu allan i’r Adran oherwydd prinder gwlâu.

“Mae cleifion yn aml yn gorfod aros am bedair, pump neu chwe awr yn yr ambiwlans cyn cael lle yn yr ysbyty.

“Mae’n argyfwng oherwydd y gostyngiad cyson yn nifer gwlâu yn yr ysbyty dros y blynyddoedd diwethaf. Nid eithriad oherwydd pwysau salwch gaeaf yw’r sefyllfa bresennol; dyma’r norm.”