Mae nifer yr  achosion o’r frech goch wedi codi i 765 yn ardal Abertawe, fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru pawn ma.

Mae hynny’n gynnydd o 72 ers dydd Iau diwethaf ac mae 77 o bobl wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty ers i’r haint ddechrau lledu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i ymateb yn gyflym a sicrhau bod eu plant yn cael brechiad MMR, gan eu hatgoffa bod yn rhaid iddyn nhw roi eu caniatad cyn i’w plant gael eu brechu.

Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, yn rhagweld y bydd nifer yr achosion yn parhau i godi tan fod canran uwch o’r gymdeithas wedi cael y brechiad.

Cafodd 3,500 o blant eu brechu dros y ddau benwythnos diwethaf mewn clinigau arbennig yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a dywedodd Mark Drakeford fod holl fyrddau iechyd Cymru yn datblygu cynlluniau i frechu plant sydd heb gael brechiad hyd yma.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif fod tua 5,000 o blant a phobol ifanc yn ardal Abertawe sydd heb gael brechiad rhag y frech goch ac mewn peryg o ddal yr haint.

Mae arbenigwr ar heintiau, Dr Jonathan Read o Brifysgol Lerpwl, wedi canmol ymateb yr awdurdodau yn Abertawe i’r frech goch yn yr ardal, gan ddweud fod agor clinigau arbennig yn “ymateb gwych” i’r broblem.

Ceidwadwyr yn galw am ddatganiad ar lawr y Senedd

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi galw ar y Gweinidog Iechyd i wneud datganiad ar lawr y Senedd ar gynlluniau’r Llywodraeth i reoli’r frech goch yng Nghymru.

“Mae’n hynod siomedig nad oes datganiad llafar wedi cael ei gynnwys yn yr amserlen ac mae’n hen bryd i weinidogion dorri’r distawrwydd,” meddai Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr.

Yn ôl Suzy Davies, AC Ceidwadol dros orllewin de Cymru:

“Mae’r bwrdd iechyd sydd ynghlwm â’r haint yma eisoes yn ei chael ei anodd yn ariannol ac mae delio gyda’r argyfwng yn ddrud tu hwnt.

“Yn hytrach na chilio oddi wrth unrhyw sylw dylai’r gweinidog iechyd newydd fod yn darparu manylion am adnoddau ac yn tawelu meddyliau rhieni.”

Beirniadu meddyg a gododd amheuaeth am MMR

Mae Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt, wedi dweud fod y meddyg a honnodd fod cyswllt rhwng y brechiad MMR ac awtistiaeth wedi “creu niwed mawr.”

Yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw dywedodd Jeremy Hunt nad oedd “unrhyw sail wyddonol i’r hyn ddywedodd Andrew Wakefield ac mae wedi creu niwed mawr a gofid anferthol i filoedd o rieni.”

Cafodd Dr Andrew Wakefield ei dynnu oddi ar y gofrestr feddygol yn dilyn yr helynt. Wythnos yma dywedodd fod yr awdurdodau’n poeni mwy am gynnal y rhaglen MMR nag oedden nhw am ddiogelu plant. Dywedodd ei fod o blaid un brechiad rhag y frech goch yn hytrach na brechiad triphlyg.