Mae llythyr wedi cael ei anfon at rieni yn Abertawe heno, yn eu hannog i roi caniatad i’w plant gael brechiad MMR yn erbyn y frech goch.

Wrth i blant yr ardal ddychwelyd i’r ysgol yr wythnos hon, mae meddygon wedi rhybuddio y gallai plant sydd wedi’u heintio ddod i gyswllt â phlant sydd heb eu brechu, gan gynyddu nifer yr achosion yn sylweddol.

Mae nifer yr achosion eisoes wedi cyrraedd 700, yn ôl y ffigurau diweddaraf, ac mae disgwyl diweddariad yfory.

Fe fydd nifer o ysgolion yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn brechu plant ddydd Mercher.

Mae yna le i gredu bod hyd at 40,000 heb eu brechu, a 30,000 wedi derbyn y brechlyn cyntaf yn unig.

Rhybuddiodd meddygon y gallai nifer yr achosion gynyddu i 1,400 erbyn y penwythnos hwn.