Côr y Wiber
Côr y Wiber oedd yn fuddugol yn rownd derfynol Côr Cymru neithiwr.

Enillodd y côr merched o Gastell Newydd Emlyn dlws Côr Cymru a gwobr o £4000 yn y rownd derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Maen nhw wedi ail-adrodd camp côr arall o Gastell Newydd Emlyn ac enillwyr diwethaf y tlws, Côr Cywair.

Roedd pum côr arall yn cystadlu gyda Chôr y Wiber yn y rownd derfynol: Côr Iau Glanaethwy, Côr y Cwm, Côr Aelwyd y Waun Ddyfal, Côr Meibion Rhosllannerchrugog, ac CF1.

Ar y panel beirniadu oedd cyn gôr feistr Cadeirlan St Paul’s yn Llundain, Dr Barry Rose OBE, Katie Thomas, cantores, arweinydd a chyfansoddwr o Geredigion, a’r arweinydd corau André van der Merwe o Cape Town.

Fe wnaeth un ar hugain o gorau gystadlu yn y rowndiau cynderfynol ym mis Mawrth, ac fe ddewisodd y beirniaid chwech o’u plith i fynd ymlaen i gystadlu yn y rownd derfynol.

Safon ryngwladol

Dywedodd Hefin Owen, o Rondo Media, cynhyrchydd y gyfres i S4C: “Llongyfarchiadau i Gôr y Wiber ar ennill tlws Côr Cymru 2013. Cafwyd noson ragorol yn y rownd derfynol ac roedd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn berwi gyda chynnwrf y cystadlu.”

“Un o amcanion y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i gorau Cymreig gymryd rhan mewn cystadleuaeth o safon ryngwladol gydag arbenigwyr o bob cwr o’r byd yn cael eu gwahodd i feirniadu. A thrwy hynny gallwn ddangos i’r byd cystal yw’r canu corawl yma yng Nghymru.”

Mae deng mlynedd ers cynnal y gystadleuaeth gyntaf yn 2003. Mae’n cael ei chynnal bob dwy flynedd.

Côr Cywair o Gastell Newydd Emlyn oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth ddiwethaf yn 2011, a hynny am yr ail dro wedi iddyn nhw ennill yn 2007 hefyd. Mae Ysgol Gerdd Ceredigion hefyd wedi ennill y teitl ddwywaith, yn 2009 ac yn y gystadleuaeth gyntaf erioed yn 2003. Côr cymysg Serendipity dan arweiniad Tim Rhys Evans aeth â hi yn 2005.