Bydd disgyblion ysgolion uwchradd yn Abertawe yn cael eu brechu yn eu hysgolion wythnos yma er mwyn ceisio atal y frech goch rhag lledaenu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pryderu fod nifer o bobol ifanc yn eu harddegau heb gael brechiad rhag y frech goch ac y gall y frech ledaenu ymhellach yng Nghymru.

Mae disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol heddiw ar ôl gwyliau’r Pasg a dydd Mercher fe fydd nyrsys yn dechrau ymweld â phum ysgol uwchradd yn yr ardal ble mae nifer o ddisgyblion heb gael brechiad MMR.

Mae’r brechiadau yn cael eu cynnal mewn pedair ysgol o fewn sir Abertawe – Yr Esgob Vaughan, Yr Esgob Gore, Llandeilo Ferwallt, a Threforys – ac un, Ysgol Cwmtawe, o fewn sir Castell Nedd Port Talbot.

Ddydd Sadwrn cafodd dros 2,000 o blant a phobol ifanc eu brechu rhag y frech goch mewn clinigau arbennig yn ysbytai Treforys, Singleton, Tywysoges Cymru Penybont, a Chastell Nedd Port Talbot. Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hefyd wedi dechrau brechu mewn ymateb i’r argyfwng yn ardal Abertawe.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru fe allai 40,000 o blant fod mewn peryg o ddal y frech goch yng Nghymru am nad ydyn nhw wedi cael y brechiad MMR.