Y Frech Goch
Mae un feddygon Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio y gall nifer y plant sy’n diodde o’r Frech Goch ddyblu am fod cymaint o blant led-led Cymru yn parhau heb eu brechu yn erbyn yr afiechyd.

Cafodd dros 1,300 o blant eu brechu mewn clinigau drefnwyd yn arbennig am yr ail benwythnos yn olynol yn Abertawe, Penybont, Castell Nedd a Phort Talbot.

Am y tro cyntaf, cynhaliwyd clinigau hefyd yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg Casnewydd ac Ystrad Mynach.

Mae Dr Meirion Evans wedi dweud bod yna “berygl go iawn i’r afiechyd ymledu gan fod llai na 95% o blant wedi cael eu brechu mewn rhai ardaloedd.”

“Mae yna lawer, lawer iawn o blant sydd heb gael eu brechu efo MMR,” meddai. “Rydyn ni’n amcangyfrif bod yna dros 40,000 o blant heb gael yr MMR felly mae yna bosibilrwydd y gall y salwch ymledu o Abertawe i rannau eraill o Gymru. “

Ychwanegodd ei fod yn credu bod yna bosibilrwydd cryf y gallai’r nifer sy’n diodde o’r Frech Goch ddyblu gan ostwng pan ddaw gwyliau’r hâf gan mai trwy’r ysgolion y mae’r haint yn tueddlu i ymledu. Mae 693 yn dioddef hyd yn hyn.

Ychwanegodd Sara Thomas, hefyd o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod rheoli’r haint yn dibynnu ar y nifer o bobl sy’n dod a’u plant i gael eu brechu.

“Yr unig beth y gallwn ei wneud ydi parhau i annog pobl i ddod i’r sesiynau brechu,” meddai.