Mae 73 o achosion newydd o’r frech goch wedi cael eu hadrodd yn ardal Abertawe.

Daw hyn â’r cyfanswm i 693 hyd yma, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mynegi eu gofid nad yw’r haint yn dangos unrhyw arwydd o gilio.

Mae mwy o glinigau wedi eu trefnu ar gyfer y penwythnos yma yn dilyn clinigau prysur y penwythnos diwethaf pan gafodd 1,700 o blant eu brechu.

“Rydym ni’n fodlon iawn o weld rhieni’n trefnu i’w plant gael eu brechu ond nid yw’r niferoedd yn ddigon uchel i gadw’r haint dan reolaeth,” meddai Dr Marion Lyons o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Mae 6,000 o blant mewn peryg o ddal y frech goch yn ardal Abertawe yn unig,” meddai, gan gyfeirio at y niferoedd sydd heb eu brechu.

“Mae gennym ni bryderon yn arbennig am blant rhwng 10 a 14 oed sydd heb eu brechu. Dyw hi fyth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar frechiadau MMR,” meddai Dr Marion Lyons.

Mae clinigau yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn yma rhwng 10 a 4 o’r gloch yn ysbytai Treforys, Singleton, Tywysoges Cymru Penybont, a Chastell Nedd Port Talbot.