Mae Ysgrifennydd Cymru wedi ymuno yn y ddadl dros gyhoeddi llyfrau Cymraeg ar declyn darllen Amazon, y Kindle.

Ddydd Mawrth datgelodd Golwg360 nad yw Kindle yn fodlon cynnal e-lyfrau Cymraeg ar y teclyn darllen.

Heddiw mae David Jones wedi trydar:

“Hoffwn i’n fawr wybod gan Amazon pam nad ydyn nhw’n cyhoeddi llyfrau Kindle Cymraeg.”

Yn dilyn cais gan Golwg360 am ymateb y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, Leighton Andrews, dywedodd llefarydd ar ei ran ei fod wedi ysgrifennu at Amazon yn annog y cwmni i gyhoeddi llyfrau Cymraeg ar y Kindle gan fynegi pryder nad hyn yw’r sefyllfa ar hyn o bryd.

“Rydym yn aros am ymateb gan Amazon, ac fe fyddwn yn rhoi sylwadau pellach yn y man,” meddai’r llefarydd.

Y cefndir

Y llynedd llwyddodd gwasg Y Lolfa i osod tua 30 o lyfrau Cymraeg ar werth trwy Kindle, ond nid yw Kindle yn caniatau iddyn nhw wneud hynny eleni.

“Ni’n teimlo’n grac iawn ac yn rhwystredig,” meddai Garmon Gruffudd o’r Lolfa, sydd wedi sefydlu deiseb
er mwyn dwyn pwysau ar Amazon.

“Mae Amazon wedi derbyn arian mawr cyhoeddus er mwyn codi warws ar gyrion Abertawe a nawr maen nhw’n pallu gadael i bobol gyhoeddi yn Gymraeg ar Kindle.”

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Amazon, sy’n berchen ar Kindle:

“Rydym ni’n gweithio o hyd ar ychwanegu mwy o ieithoedd trwy borth KDP ac mae Cymraeg yn un rydym ni’n gobeithio ei chefnogi yn y dyfodol.”

Caniatáu Llyfr Cernyweg

Mae llyfr Cernyweg i blant – Matthew ha’n Eskisyow Glaw – wedi cael ei gyhoeddi fis diwethaf ar ôl i’r cyhoeddwyr, Diglot Books, ddeisebu’r cwmni. Dywedodd Garmon Gruffudd fod angen ymgyrch debyg yng Nghymru.

“Mae eisiau pwysau gwleidyddol a phwysau gan ddarllenwyr,” meddai.

Dywedodd Garmon Gruffudd nad oes rheswm technegol dros beidio gadael i’r Gymraeg ymddangos ar Kindle a bod teclynnau eraill, megis Sony a Kobo, yn caniatáu defnyddio’r Gymraeg.