Mae Cymru’n llusgo ymhell ar ôl gwledydd eraill Prydain o ran cynnydd mewn rhoi organau gan bobol sydd wedi marw.

Tra bod y ffigwr ar draws gwledydd Prydain wedi codi o 50% yn y pum mlynedd diwetha’, dim ond 15.6% oedd y cynnydd yng Nghymru.

Roedd yna ostyngiad sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, o 67 i 52.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi croesawu’r cynnydd cyffredinol ond yn cydnabod bod angen gwneud rhagor.

Cynnydd llawer mwy mewn gwledydd eraill

Cyhoeddodd adran Gwaed a Thrawsblannu’r Gwasanaeth Iechyd, NHSBT, fod y ffigwr wedi codi 50% ar draws gwledydd Prydain.

Roedd y cynnydd yn 49.1% yn Lloegr, 74/1% yn yr Alban ac 85.8% yng Ngogledd Iwerddon.

Rhoddodd 1,200 o bobol organau yng ngwledydd Prydain yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, a hynny yn ôl NHSBT, wedi helpu mwy na 3,000 o bobol.

Sylwadau’r Gweinidog Iechyd

Yn ôl Mark Drakeford, roedd disgwyl amrywiadau, oherwydd bod y ffigurau’n fach, a’r duedd oedd yn bwysig.

“Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae nifer y rhoddwyr organau yng Nghymru wedi dilyn tuedd bositif,” meddai.

Doedd dim tystiolaeth, meddai, mai bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheolau newydd sy’n gyfrifol am y cwymp – fe fyddai’r rheiny’n cymryd yn ganiataol fod pobol yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl marw, os nad oedden nhw’n dweud fel arall.

‘Y ffordd orau’

Roedd y gweinidog yn mynnu mai dyna’r ffordd orau o sicrhau rhagor o organau, er bod gwrthwynebiad cryf i’r mesur.

“Rwy’n parhau i ganolbwyntio ar gyflwyno cynnydd tymor hir a chynaliadwy yn nifer y rhoddwyr organau ac i newid agwedd y cyhoedd tuag at roi organau yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford.