Mae ffilm S4C wedi ennill gwobr Ffilm a Theledu Rhyngwladol Gwyliau Efrog Newydd mewn seremoni yn Las Vegas neithiwr.

Fy Chwaer a Fi, ffilm am efeilliaid o Lanelli, ddaeth i’r brig yng nghategori’r cynyrchiadau sy’n rhoi sylw i achosion dynol.

Mae’r ffilm yn adrodd hanes yr efeilliaid Catherine a Kirstie Fields, sy’n 18 oed ac sy’n dioddef o gyflwr nirwolegol unigryw sydd wedi eu parlysu.

Dydy’r ddwy ddim yn gallu siarad, ac mae’r ddwy yn cyfathrebu drwy ddefnyddio peiriant.

Dywedodd cynhyrchydd a chyfarwyddwr ‘Fy Chwaer a Fi’, Mei Williams: “Rydym i gyd yn hynod falch fod ‘Fy Chwaer a Fi’ wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol.”

‘Penderfyniad dewr’

“Doedd hi ddim yn hawdd i’r merched agor eu calonnau ar gamera, mi roedd yn benderfyniad dewr tu hwnt i rannu eu stori unigryw â’r gynulleidfa.

“Mae’r ffilm yn cael ei dangos ledled y byd bellach ac mae pawb yn parhau i ryfeddu at eu hysbryd a’u cryfder.

“Mae wedi bod yn fraint i mi ddatblygu cyfeillgarwch agos â’r teulu a dwi’n hynod ddiolchgar i S4C am fod mor gefnogol o’r cychwyn cyntaf.

“Mae’r ffilm yn destament ac yn gydnabyddiaeth o waith amhrisiadwy Hayley Mason a chriw hosbis Tŷ Hafan sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi’r teuluoedd arbennig yma dan amgylchiadau mor anodd.

“Fel cyfarwyddwr mae fy nyled i’n fawr i’m holl gydweithwyr, ond yn arbennig i Madoc Roberts y golygydd a’r Uwch gynhyrchydd Paul Islwyn Thomas am bob cyngor ac arweiniad a roddodd ymdeimlad mor arbennig i’r ffilm hon.”

Ychwanegodd Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C, Llion Iwan: “Mae’n wych gweld cynhyrchiad S4C yn derbyn clod ar blatfform rhyngwladol. Mae ‘Fy Chwaer a Fi’ yn ffilm onest a gafaelgar sydd wedi cyffwrdd â gwylwyr y Sianel, ac yn adrodd stori hynod o drist ond ysbrydoledig tu hwnt hefyd.

“Llongyfarchiadau gwresog iawn i Mei Williams, i’r tîm yn Boom Pictures Cymru, ac i Catherine a Kirstie a’u teulu oll.”

Bydd cyfle arall i wylio ‘Fy Chwaer a Fi’ nos fory am 9pm ar S4C, ac ar Clic ar y we am 35 diwrnod.