Kindle
Mae cyhoeddwr llyfrau yn dweud fod Kindle yn gwrthod gwerthu e-lyfrau newydd Cymraeg unwaith eto.

Mae Garmon Gruffudd o’r Lolfa yn galw am ymgyrch i ddwyn pwysau ar declyn cwmni Amazon ar ôl iddyn nhw ddweud eleni nad ydyn nhw’n medru cynnal llyfrau Cymraeg.

Y llynedd llwyddodd gwasg Y Lolfa i osod tua 30 o lyfrau Cymraeg ar werth trwy Kindle, ond nid yw’r llyfrau wedi cael eu diweddaru eleni.

“Maen nhw wedi stopio rhoi caniatâd i ni am ryw reswm,” meddai Garmon Gruffudd.

“Ni’n teimlo’n grac iawn ac yn rhwystredig. Mae Amazon wedi derbyn arian mawr cyhoeddus er mwyn codi warws ar gyrion Abertawe a nawr maen nhw’n pallu gadael i bobol gyhoeddi yn Gymraeg ar Kindle.”

Ymateb Amazon

Mewn ymateb dywedodd Amazon: “Rydym ni’n gweithio o hyd ar ychwanegu mwy o ieithoedd trwy borth KDP ac mae Cymraeg yn un rydym ni’n gobeithio ei chefnogi yn y dyfodol.”

Caniatáu Llyfr Cernyweg

Mae llyfr Cernyweg i blant – Matthew ha’n Eskisyow Glaw – wedi cael ei gyhoeddi fis diwethaf ar ôl i’r cyhoeddwyr, Diglot Books, ddeisebu’r cwmni. Mae Garmon Gruffudd yn dweud fod angen ymgyrch debyg yng Nghymru a bod Y Lolfa yn bwriadu gweithredu.

“Dyw Amazon ddim yn hoffi newyddion negyddol ac mae eisiau i ni ddwyn pwysau arnyn nhw.

“Mae’r cwmni’n cefnogi ieithoedd megis Galiseg a’r Gatalaneg ond ddim y Gymraeg. Wnawn nhw ddim ymateb tan fod nhw’n cael sylw negyddol.”

Dywedodd Garmon Gruffudd nad oes rheswm technegol dros beidio gadael i’r Gymraeg ymddangos ar Kindle a bod teclynnau eraill, megis Sony a Kobo, yn caniatáu defnyddio’r Gymraeg.

Dywedodd hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru a Leighton Andrews fynd i’r afael â’r mater.

“Mae eisiau pwysau gwleidyddol a phwysau gan ddarllenwyr,” meddai Garmon Gruffudd.

Dywedodd Gwasg Gomer nad ydyn nhw wedi ceisio gwerthu ar Kindle hyd yma ond eu bod nhw’n gwerthu e-lyfrau.