Mae disgwyl i swyddogion iechyd gyhoeddi ffigurau newydd heddiw ynglŷn â faint sydd wedi eu heintio gan y frech goch yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae 600 o achosion o’r frech goch wedi cael eu cofnodi erbyn hyn.

Eisoes, mae 1,700 o blant eraill wedi cael eu brechiadau MMR mewn clinigau brys gafodd eu sefydlu gan y bwrdd iechyd dros y penwythnos.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi apelio unwaith eto ar rieni i frechu eu plant yn erbyn yr haint.

Dywed y corff eu bod nhw’n pryderu y gallai plant sydd heb eu brechu ddod i gyswllt â phlant sydd eisoes wedi eu heintio.

Mae nifer gynyddol o achosion wedi cael eu cofnodi yn ardaloedd byrddau iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda.

Dywedodd Cyfarwyddwr Amddiffyn Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, Dr Marion Lyons: “Er bod hwn yn ddechrau da, mae yna filoedd o blant o hyd sydd heb gael y ddau ddos o’r brechiad MMR ac felly maen nhw dal yn wynebu’r risg o gael eu heintio gyda firws y frech goch sy’n farwol.

Amddiffyn ymgyrch papur newydd

Mae golygydd newydd y South Wales Evening Post wedi amddiffyn ymgyrch y papur newydd yn ystod y 1990au i annog rhieni i beidio â rhoi’r brechiad MMR i’w  plant.

Roedd yna bryderon bryd hynny bod cyswllt rhwng brechiad MMR a’r nifer gynyddol o achosion o awtistiaeth ymhlith plant.

Yn ôl y papur newydd, mae rhai arbenigwyr wedi dweud bod ymgyrch y South Wales Evening Post ar y pryd wedi bod yn rhannol gyfrifol pam bod llai o bobl wedi dewis rhoi’r brechiad MMR i’w plant a bod hynny yn ei dro wedi cyfrannu at yr achosion cynyddol o’r frech goch yn ardal Abertawe dros yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd y golygydd Jonathan Roberts mewn erthygl yn y papur ddoe: “Mae’n beryglus i farnu’r ymgyrch y tu allan i’w chyfnod.

“Mae’r dystiolaeth am gyswllt rhwng MMR ac awtistiaeth wedi cael ei ddadbrofi erbyn hyn, ond nid dyna’r sefyllfa yn 1997.

“Roedd yna wir bryder, ofn hyd yn oed, ymhlith rhieni y gallen nhw fod yn rhoi eu plant mewn perygl.”

Ychwanegodd fod y papur wedi rhoi’r cyfle i’r ddwy ochr gyflwyno eu barn yn ystod yr ymgyrch, ac nad yr Evening Post oedd yr unig bapur newydd yng Nghymru oedd wedi mynegi pryder am frechiad MMR.

“Roedd ein hymgyrch ni wedi adlewyrchu pryderon rhieni, fe adroddodd eu straeon, fe alwodd am atebion, ac roedd yn gofyn am eglurdeb.

“Yr hyn na wnaeth oedd dweud wrth bobol am beidio brechu eu plant yn erbyn y frech goch…”