Y Frech Goch
Cafodd oddeutu 1,700 o bobl a phlant eu brechu yn erbyn y Frech Goch mewn pedwar clinig brys mewn ysbytai yn ne Cymru ddoe.

Cafodd rhagor eu brechu mewn sesiynau lleol yng Nglyn Nedd, Port Talbot a Phenybont ar Ogwr.

Roedd y galw am y brechiad yn yr ysbytai yn llawer iawn uwch na’r disgwyl ac oherwydd hyn fe fydd y clinigau yn cael eu cynnal eto dydd Sadwrn nesaf.

Mae tua 600 yn ne, canolbarth a gorllewin Cymru yn diodde o’r salwch erbyn hyn. Mae bron i 50 wedi cael eu taro’n wael ers dydd Mercher diwethaf. Yn ôl swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru beth bynnag mae bron i 4,000 o blant yn parhau heb gael ail frechiad MMR yng Nghymru ac mae hyn yn angenrheidiol i’w gwarchod rhag y salwch.

Mae achosion o’r Frech Goch hefyd wedi taro dros 200 o bobl a phlant yng ngogledd ddwyrain Lloegr. Mae 39% cleifion yn  ardaloedd Middlesborough, Stockton a Darlington yn blant rhwng 10 ac 19 oed.

Symptomau’r Frech Goch

Mae’r Frech Goch yn salwch sy’n gallu mynd o ddrwg i waeth yn sydyn gan achosi anhwylderau ar y llygaid, yr ymenydd a’r clyw. Gall hefyd ladd y claf.

Plant sydd yn fwyaf tebygol o ddiodde. Mae’r symptomau cynnar yn cynnwys gwres uchel, peswch, conjunctivitis a brech cochlyd yr olwg.

Brechiad yr MMR sydd orau yn erbyn y salwch. Cafodd y brechiad yma ei gyflwyno yn 1988 ond cyhoeddwyd erthygl yn ddiweddarach yn y cylchgrawn meddygol The Lancet oedd yn awgrymu y gallai’r brechiad arwain at awstisitiaeth mewn plentyn.

Cafodd yr erthygl lawer o gyhoeddusrwydd ac o’r herwydd fe benderfynodd llawer o rieni i un ai beidio brechu eu plant o gwbl neu i beidio cael yr ail frechiad.

Degawd yn ddiweddarach, profwyd bod y brechiad yn ddiogel ond mae nifer yr achosion o’r Frech Goch wedi cynyddu ers cyhoeddi’r erthygl.