Siop y Pethe, Aberystwyth
Mae un o siopau llyfrau amlycaf Cymru ar werth.

Dros ddeugain mlynedd ers i Gwilym a Megan Tudur agor Siop y Pethe yn Aberystwyth maen nhw wedi penderfynu rhoi cyfle i rywun arall gydio yn yr awenau.

Agorodd Siop y Pethe yn 1968 mewn cyfnod o fwrlwm a welodd sawl siop debyg yn agor yng Nghymru.

“Y Pethe oedd enw’r cyfnod ar bopeth Cymraeg o bwys,” meddai Gwilym Tudur.

“Er ei bod yn ddiwedd cyfnod i ni, mae’n gyfle da i’r sawl a ddaw yma yn ein lle, i roi eu stamp eu hunain ar le adnabyddus a gwneud eu henw hwythau,” meddai Gwilym Tudur.

“Dyma gyfle rhagorol felly i ddatblygu’r busnes Cymraeg sefydlog hwn ymhellach. Mae ‘na gyfle gwych i ddatblygu’r busnes trwy’r we mewn ffordd dydan ni ddim wedi gallu gwneud,” meddai.

“Mi fydd yn chwithig mae’n siŵr i beidio â bod yn rhan o’r holl beth pan fydd y cyfan yn cael ei werthu, ond mae angen i ni gamu naill ochr nawr.”

Rhagor yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma