Y Gweinidog Diwylliant John Griffiths
Bydd llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifdai Cymru yn derbyn swm o dros £2m er mwyn denu mwy o ymwelwyr a defnyddwyr.

Dywed Llywodraeth Cymru mai’r bwriad yw creu “canolfannau diwylliannol ac addysgol deinamig, modern.”

Bydd chwe llyfrgell gyhoeddus yn rhannu miliwn o bunnau er mwyn moderneiddio, a llyfrgell Hwlffordd yn derbyn £300,000 ohono.

Mae £667,000 yn cael ei roi tuag at ddatblygu gwasanaethau llyfrgelloedd. Mae llyfrgell Wrecsam wedi derbyn £230,000 er mwyn arwain rhaglen genedlaethol i ddenu pobol i lyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifdai Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, John Griffiths, fod “ein hamgueddfeydd, ein harchifdai a’n llyfrgelloedd yn cynnig cyfoeth o adnoddau a gweithgareddau a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobol, yn enwedig teuluoedd ar incwm isel, gan fod modd eu mwynhau am ddim neu am bris mynediad isel iawn.”

Cyswllt â’r gymuned

Nod rhai o’r grantiau i amgueddfeydd lleol yw eu hannog i gael cyswllt nes â’r gymuned. Mae’r elusen Plant mewn Amgueddfeydd wedi bod mewn cysylltiad â nifer o amgueddfeydd yng Nghymru i’w hannog i ymateb i safbwyntiau plant a phobol ifanc.

Bydd grant o £10,000 i Amgueddfa’r Fenni yn ei gwneud yn bosibl i blant ysgol lleol weithio gyda staff amgueddfeydd i ail-ddylunio arddangosfeydd a’u gwneud yn fwy deniadol i bobl ifanc.

Ymhlith yr amgueddfeydd eraill i elwa ar y buddsoddiad mae Castell Bodelwyddan, sy’n derbyn £39,000, a Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Fynwy, sy’n derbyn £17,676  i ddigideiddio casgliadau’r amgueddfeydd