Mae meddygon wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford yn ei rybuddio am beryglon toriadau i wasanaethau iechyd.
Mewn llythyr agored, mae mwy na hanner meddygon damweiniau ac achosion brys Cymru yn rhybuddio bod eu hadrannau mewn argyfwng a bod nifer gynyddol o gleifion yn marw o’r herwydd.
Maen nhw’n rhybuddio bod yr ymdrechion i arbed arian ar draul gofal o’r radd flaenaf.
Yn y llythyr, mae’r meddygon yn cyfeirio at gyfraddau marwolaeth yn codi a’r peryglon mae cleifion yn eu hwynebu tra eu bod nhw’n aros yn yr adrannau brys i gael eu trin.
Dywed y meddygon fod yr argyfwng hefyd yn effeithio ar y gwasanaeth ambiwlans gan eu bod nhw’n gorfod aros y tu allan i ysbytai gyda chleifion oherwydd prinder gwlâu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod lleihau’r pwysau ar yr adrannau brys yn un o flaenoriaethau’r Gweinidog Iechyd.
‘Dan eu sang’
Mae’r Ceidwadwyr wedi canmol y meddygon am ysgrifennu’r llythyr.
Dywedodd llefarydd iechyd Ceidwadwyr Cymru, Darren Millar: “Mae hwn yn rhybudd difrifol gan feddygon brys y Gwasanaeth Iechyd fod diogelwch cleifion mewn perygl difrifol o ganlyniad i bwysau ariannol.
“Mae torri ar nifer y gwlâu er mwyn arbed arian yn arwain at adrannau damweiniau a gofal brys dan eu sang, sy’n achosi ciw o ran ambiwlansys y tu allan i’n hysbytai ac yn eu hatal nhw rhag mynd yn ôl ar yr heolydd i fynd i argyfyngau.
‘Rhaid dysgu gwersi’
“Rhaid i’r Gweinidog Iechyd ddysgu gwersi o sgandal Ysbyty Stafford, lle’r oedd cyrraedd targedau ariannol yn bwysicach na gofal cleifion.
“Mae hwn yn rhybudd agored a phlaen gan uwch-glinigwyr y rheng flaen ac rwy’n eu canmol nhw am eu dewrder wrth ddweud y gwir wrth y sawl sydd mewn grym ym Mharc Cathays.
“Rhaid i’r Prif Weinidog gefnogi ei Weinidog Iechyd newydd a chymryd camau breision er mwyn gwyrdroi polisi Llywodraeth Cymru o fwy o doriadau iechyd nag erioed o’r blaen er mwyn sicrhau bod ein Gwasanaeth Iechyd yn derbyn yr adnoddau ychwanegol y mae eu hangen yn fawr.”
‘Problemau gwirioneddol’
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Pan mae staff y rheng flaen yn teimlo mor bryderus fel eu bod nhw’n ysgrifennu llythyr agored at y Gweinidog Iechyd, yna rydych chi’n gwybod bod yna broblemau gwirioneddol.
“Ni ddylai’r llythyr yma fod yn sioc i’r gweinidog newydd – yn gyson, mae fy etholwyr yn dweud wrtha’i am broblemau tebyg maen nhw wedi ei gael yn yr adrannau brys.”
Dywedodd bod yn rhaid i Mark Drakeford weithredu ar frys i achub y sefyllfa.
Ymateb tebyg oedd gan lefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones.
“Yn amlwg, mae’r Gweinidog iechyd newydd wedi etifeddu problemau mawr yn y GIG sydd angen eu datrys ar frys.”
Dywedodd bod angen “cymryd agwedd mwy holistaidd tuag at y broblem. Mae Plaid Cymru wedi galw am newid y rheolau i fewnfudwyr er mwyn annog rhagor o feddygon i weithio yng Nghymru, a sicrhau bod meddygon sy’n hyfforddi yng Nghymru yn aros yng Nghymru.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd wrth Golwg360: “Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd, Mark Drakeford wedi nodi mai un o’i flaenoriaethau yn ystod y 12 mis nesaf yw edrych ar ffyrdd o leihau’r pwysau ar ofal iechyd heb ei amserlennu, ac mae hyn yn cynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau gwaith, adrannau brys a gwasanaethau ambiwlans.”