Mae Adam Price wedi awgrymu y dylid creu un cyngor ar gyfer Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin – cadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg.

Roedd y cyn-Aelod Seneddol sy’ bellach yn cynghori Leann Wood Arweinydd Plaid Cymru, yn annerch cynhadledd ar ddyfodol yr iaith yn y Galeri yng Nghaernarfon heddiw.

Ar hyn o bryd mae’r gwleidyddion yn trafod lleihau’r nifer o gynghorau sir trwy eu huno.

“Be’ hoffwn i weld ydy defnyddio’r cyfle euraid hwn i uno’r broydd Cymraeg ar hyd y gorllewin, o Benllech i Borth Tywyn, a chreu un awdurdod rhanbarthol grymus ar gyfer y gorllewin. Cyngor fydd yn gallu mynd â’r maen i’r wal,” meddai Mr Price wrth Radio Cymru heddiw.

Ychwanegodd:  “Mae angen strategaeth sy’n adfywio’r iaith ond mae angen strategaeth sy’n adfywio’r economi…yr unig ffordd i adfer yr iaith yn y gorllewin yw i adfer yr economi yn y pendraw.”