Lesley Griffiths
Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, wedi datgelu cynlluniau i fuddsoddi £4.6 miliwn mewn technoleg newydd i drin canser a gwasanaeth canser newydd i Gymru.

Trwy’r buddsoddiad, bydd cleifion yn cael mynediad i’r driniaeth ddiweddaraf yng Nghanolfan Ganser Felindre yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.

Bydd y Ganolfan yn defnyddio’r arian i ddarparu triniaeth radiotherapi newydd sydd wedi dangos mewn profion nad yw’n niweidio’r meinwe o amgylch y canser.

Mae’r ganolfan yn gobeithio trin tua 290 o gleifion y flwyddyn yn ogystal â datblygu gwasanaethau eraill.

Radiotherapi
Bydd Canolfan Felindre yn darparu triniaeth radiotherapi stereotactig (SBRT) ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint. Bydd y driniaeth radiotherapi yma’n targedu’r canser gan wneud llai o ddifrod i feinweoedd cyfagos na thriniaethau eraill.

Bydd y ganolfan hefyd yn darparu gwasanaeth radiolawdriniaeth stereotactig (SRS) sy’n golygu targedu un dos uchel o ymbelydredd ar unwaith. Mae’r driniaeth yma fel arfer yn cael ei defnyddio o fewn y benglog.

Dywedodd Lesley Griffiths y byddai’r buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion yng Nghymru:

“Mae datblygu’r dechnoleg yma yng Nghymru yn golygu y bydd cleifion Cymraeg yn cael eu triniaeth yma. Ar hyn o bryd, mae 65 o gleifion y flwyddyn yn teithio i Loegr er mwyn cael triniaeth SRS a llai na deg y flwyddyn yn mynd am driniaeth SBRT.”

Ac mae Ymchwil Canser Cymru hefyd wedi addo £ 1.5 miliwn i ariannu ymchwil ar wahân dros y pum mlynedd nesaf.