Mae aelodau mudiad gwrth-niwclear yn cynnal protest ger Pont Menai bore ma i nodi dwy flynedd union ers trychineb gorsaf niwclear Fukushima Daiichi yn Siapan.

Bu aelodau mudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn protestio rhwng 8 a 9 y bore ma er mwyn codi ymwybyddiaeth am beryglon ynni niwclear a phwysleisio bod yr argyfwng yn parhau hyd heddiw.

Dywedodd Dylan Morgan, llefarydd ar ran PAWB, ar Radio Cymru bore ma: “Rydan ni’n nodi bod dwy flynedd wedi mynd heibio ers trychineb Fukushima yn  Siapan. Mae hi’n argyfwng mawr yno o hyd ac mae ymbelydredd yn dal i chwydu allan o’r orsaf ac i mewn i’r môr.

“Pan mae rhywbeth yn digwydd mewn safle niwcelar – damwain fel hyn, mae hi’n cymryd blynyddoedd i wneud pethau’n well.”

Trychineb Fukushima

–         Amcangyfrifir bod hyd at 770,000 terabequerel o ymbelydredd wedi gollwng yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl trychineb Fukushima ym Mawrth 2011.

–         Yn y cyfanswm hwn, gollyngwyd 15,000 terabequerel o caesium ymbelydrol i’r amgylchedd. Mae hyn 168 gwaith yr ymbelydredd a ollyngwyd wrth fomio Hiroshima yn 1945.

–         Mae ymbelydredd wedi ymddangos mewn llefrith a llysiau yng ngogledd Siapan ac am gyfnod byr yn nŵr yfed Tokyo. 

–         Mae llygredd ymbelydrol mewn rhannau o’r Môr Tawel yn agos at Fukushima ar lefelau 4000 gwaith dros y terfyn cyfreithiol.

–         Nid yw’r lefelau ymbelydrol ger Fukushima yn gostwng. Awgryma hynny bod gollwng parhaol o lygredd ymbelydrol i’r môr.

–         Mae llywodraeth Japan wedi amcangyfrif y bydd hi’n costio £188 biliwn i ail-adeiladu yn dilyn y daeargryn, y tswnami a’r argyfwng niwclear.