Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n cynnal astudiaeth ar ddiogelwch ffordd osgoi Dolgellau yn dilyn pryderon gan Gyngor Tref a’r heddlu.

Cysylltodd Cyngor Tref Dolgellau â’r AC lleol, Dafydd Elis-Thomas, gyda phryderon am beryglon y ffordd gyda’r hwyr ac maen nhw wedi galw am ddarpariaeth well o ran golau yn yr ardal, yn enwedig ger y pedwar cyffordd sydd ar y ffordd.

Daw’r pryderon tra bod  gwelliannau yn cael eu gwneud i lôn A470 yn yr ardal.  Wedi i’r gwaith gael ei gwblhau mae aelodau’r Cyngor Tref yn credu y bydd cyflymder traffig yn cynyddu ac felly yn galw am gyflwyno mesurau diogelwch i osgoi damweiniau.

Heddlu’n poeni

Mewn llythyr at Dafydd Elis-Thomas dywedodd yr Arolygydd Mark Armstrong o Heddlu Gogledd Cymru:

“Rhannaf y pryderon a godwyd gan Gyngor Tref Dolgellau am ddiogelwch rhai rhannau o’r ffordd osgoi a’r nifer uchel o wrthdrawiadau, llawer ohonynt yn ddifrifol eu natur, sydd wedi digwydd ar y ffordd honno.

“Byddwn yn gefnogol o unrhyw gamau y gellid eu cymryd i ddatrys y broblem hon.”

Adolygiad

Mae Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sargeant, wedi dweud bod y rhan hon o’r ffordd wrthi’n cael ei hadolygu.

“Mae astudiaeth yn cael ei chynnal ar hyn o bryd er mwyn ymchwilio i’r pedair cyffordd ar y ffordd osgoi, a bydd yn cynnwys adolygiad o ddamweiniau a’r holl agweddau sy’n ymwneud â’r briffordd gan gynnwys arwyddion, goleuadau a marciau ffordd,” meddai Carl Sargeant.

“O ran effeithiau’r ddau gynllun gwella ffyrdd yng Ngelligemlyn a Maes yr Helmau, nid ydym yn rhagweld y byddant yn cael effaith sylweddol ar gyflymder y traffig ar y ffordd osgoi, ond bydd swyddogion yn monitro’r sefyllfa er mwyn gweld a fydd yna unrhyw newidiadau.”

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas AC: “Croesawaf y ffaith fod astudiaeth lawn yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru i edrych yn fanwl ar holl agweddau ffordd osgoi Dolgellau, gan gynnwys effeithiau posib y cynlluniau gwelliannau ffordd ar y lôn neilltuol hon.

“Fel un sy’n teithio’n rheolaidd ar yr A470, rwyf yn awyddus iawn i wella dyluniad y ffordd er mwyn lleihau damweiniau.  Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Dolgellau am godi’r mater pwysig hwn, ac edrychaf ymlaen at glywed canlyniad yr adolygiad gan Lywodraeth Cymru.”