Y dorf yn Aberystwyth Llun: Iestyn Hughes
Daeth tua mil o bobl ynghyd ddoe i gymryd rhan mewn Parêd Gŵyl Dewi yn Aberystwyth oedd yn dathlu iaith a diwylliant Cymraeg y dref.

Mi gafodd y Parêd ei arwain gan yr arbenigwr cerddoriaeth werin a’r ymgyrchydd iaith, Dr Meredydd Evans. Roedd yn gwisgi gwregys oedd wedi ei gomisiynu’n arbennig ar gyfer yr achlysur a gafodd ei gynllunio gan Caroline Goodband o’r Borth.

Roedd Siôn Jobbins, Cadeirydd Cymdeithas y Parêd, wrth ei fodd gyda’r nifer a ddaeth ynghyd.

Meddai wrth Golwg 360, “Roedd rhyw fil yno, llawer mwy na’r disgwyl. Roedd yn ddigwyddiad hapus, positif, lliwgar a cherddorol yn dangos fod pobl Aberystwyth yn barod i ddathlu’r Gymraeg a diwylliant unigryw Cymru.”

Ymysg y rhai oedd yn cymryd rhan yn y Parêd oedd Lyn Ebenezer, Ceri Rhys Matthews, Côr Meibion Aberystwyth, Band Arian Aberystwyth, y band gwerin Radwm a Band Drwm Cambria.

Cadarnhaodd Siôn Jobbins y bydd y Parêd yn digwydd eto’r flwyddyn nesaf. Byddai’r pwyllgor yn cyfarfod ymhen pythefnos i drafod yr ŵyl eleni ac i edrych ymlaen at yr ŵyl yn 2014. Dywedodd y bydd angen urddo Tywysydd newydd y flwyddyn nesaf, gan ddewis unwaith eto person sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i’r Gymraeg.

“Byddai’n dda hefyd cael rhagor o ddigwyddiadau a cherddoriaeth Gymraeg yng nghaffis a thafarndai’r dref,” meddai.

Mae Siôn Jobbins yn gosod her i drefi eraill yng Nghymru.

“Hoffwn weld cymdeithasau Cymraeg trefi eraill Cymru yn trefnu eu gorymdeithiau eu hunain ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi er mwyn uno pobl ac ymgryfhau’r Gymraeg yn lleol. Dydi hi ddim yn anodd,” meddai.