Mae rhaglen Jonathan ymhlith wyth o raglenni S4C sydd wedi cyrraedd rhestr fer un o wobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn Abertawe ddiwedd Ebrill ac mae wyth o raglenni a dau wasanaeth arall gan S4C ar restr fer Gwobrau’r Torch Efydd.

Ymhlith y rhaglenni mae Gwlad yr Astra Gwyn, Gwaith Cartref a Tai Bach y Byd.

Cafodd trefnwyr y gwobrau 425 o geisiadau o’r Alban, Cernyw, Llydaw, Ynys Manaw, Iwerddon a Chymru, ac mae’r rhestr fer wedi ei llunio gan banel rhyngwladol.

Cydnabyddiaeth

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, ei bod hi’n “braf iawn i weld cynnwys S4C mor amlwg yn y rhestr fer ryngwladol yma.”

“Mae’r gydnabyddiaeth yn y categorïau digidol yn adlewyrchu’r pwyslais mae S4C nawr yn rhoi ar sicrhau bod cynnwys S4C ar gael yn y ffyrdd mwyaf cyfoes, ar gymaint â phosib o blatfformau i sicrhau bod y gynulleidfa yn gallu ei fwynhau ble bynnag a phryd bynnag maen nhw’n dymuno.”

Mae’r gwobrau yn cynnwys 20 o gategorïau ym meysydd animeiddio, materion cyfoes, drama, adloniant, chwaraeon, a rhaglenni ffeithiol, ac mae categorïau newydd eleni am yr app gorau, rhaglen gerddoriaeth, a chwaraeon radio.  Dyma’r enwebiadau o stabal S4C:

Calon Cartŵn                                                              (Cynhyrchiad Griffilms)

Afal Drwg Adda                                                        (Cynhyrchiad Cwmni Da)

Abadas                                                                         (Cynhyrchiad Dinamo)

Y Byd ar Bedwar: Chwilio am April                         (Cynhyrchiad ITV Cymru)

Gwaith Cartref                                                            (Cynhyrchiad Fiction Factory)

Jonathan – Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012      (Cynhyrchiad Avanti)

Tai Bach y Byd                                                           (Cynhyrchiad Cwmni Da)

Gwlad yr Astra Gwyn                                                (Cynhyrchiad Rondo Media)

Y Lifft – Gwasanaeth Ail Sgrin                                  (Cynhyrchiad Boom Pictures Cymru)

Y Tywydd – App                                                       (Cynhyrchiad Tinopolis)