Laurence Main, figan
Mae’r helynt cig ceffyl wedi rhoi hwb i siopau cigydd lleol medd arbenigwr ar y diwydiant.

Ond mae’r helynt hefyd wedi amlygu rhai o ddadleuon y rhai sy’n gwrthod bwyta cig, medd figan amlwg wrth Golwg360.

Yn ôl Laurence Main o Ddinas Mawddwy, sydd wedi bod yn helpu i gynnal stondin Cymdeithas y Figan yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 30 mlynedd, mae’r helynt cig ceffyl wedi dod â mater bwyta cig i lygad y cyhoedd.

“Mae’n fater sydd wedi bod allan yno ers sbel, gyda BSE ac yn y blaen, ond basech chi’n meddwl bydd hwn yn sbardun i bobol newid,” meddai.

“Mae’n gwneud i bobol feddwl, beth bynnag.”

Mynd yn groes i’n diwylliant

Yn ôl Laurence Main mae bwyta ceffyl yn groes i’n diwylliant ni yng Nghymru ac wedi bod yn rheswm am y sylw mawr diweddar.

“Llai na chanrif nôl, roedd ceffylau yn ffordd o deithio a gweithio’r tir. Maen nhw’n agos inni.

“Mae’n mynd yn ôl i’r dduwies Rhiannon , a byddai neb am ei bwyta hi.”

Mae yna ffyrdd amgen o fwyta, meddai Laurence Main, ac mae angen i bobol weithio gyda’r tir yn hytrach nag elwa ohono.

“Mae gyda ni esiampl dda yng Nghymru, achos roedd Dewi Sant yn gwrthod bwyta cynnyrch anifeiliaid. Roedd e’n figan, i bob pwrpas,” meddai.

Sioc i Hybu Cig Cymru

Mae’r ymchwil i’r gwaith o brosesu cig ceffyl yn parhau ar safleoedd dau gwmni, gydag un ohonyn nhw yn Llandre, Ceredigion.

Yn ôl Cadeirydd asiantaeth Hybu Cig Cymru, Dai Davies, mae’r helynt am werthu cig ceffyl wedi bod yn sioc ac wedi arwain siopwyr i golli ffydd mewn cig wedi ei brosesu.

“Dw i’n credu bod shifft wedi bod o’r gwerthwyr mawr i fwtsheriaid lleol,” meddai.

“Mae nifer o fwtsheriaid yn rhoi negeseuon cadarnhaol iawn inni. Yn amlwg os ydych chi’n prynu cynnyrch gan fwtshwr lleol gallwch chi ofyn cwestiynau a chael sicrwydd ganddo,” meddai Dai Davies.