Mae gwyddonwyr o Brydain wedi datblygu prawf gwaed er mwyn darganfod clefyd Creutzfeld-Jakob amrywiol (vCJD) mewn pobl.

Ar hyn o bryd mae’n rhaid i bobl sydd â symtomau o’r clefyd Creutzfeld-Jakob, ffurf dynol o glefyd BSE mewn gwartheg, gymryd nifer o brofion, gan gynnwys biopsi o’r ymenydd, er mwyn cadarnhau diagnosis.

Mae’r prawf newydd, a gofnodwyd yng nghylchgrawn Lancet, yn cynnig y cyfle o ddiagnosis cynt, gyda’r posibilrwydd o sgrinio cyfraniadau gwaed rhag lledaenu’r clefyd trwy drosglwyddiadau gwaed.

Ond bydd angen rhagor o ymchwil cyn y gall y prawf gael ei ddefnyddio’n helaeth i sgrinio pobl iach a allai fod yn cario’r clefyd yn ddiarwybod.

Mae’r clefyd yn effeithio ar yr ymennydd a’r gred yw ei fod yn cael ei basio rhwng gwartheg a phobl trwy gig wedi ei heintio.

Mae 170 o farwolaethau o glefyd Creutzfeld-Jakob amrywiol wedi eu cadarnhau ym Mhrydain ers yr un cyntaf yn 1995, ond gallai hyd at 4,000 o bobl fod yn cario’r clefyd yn ddiarwybod, sydd hyd yn hyn heb iachâd.

Mae symtomau cynnar y clefyd yn cynnwys pryderu, iselder ysbryd, a phoenau bychain, sy’n anodd iawn i ddoctoriaid eu hadnabod fel nodweddion y clefyd nes bod symtomau eraill yn datblygu, fel problemau symud a cholli galluoedd meddyliol.

Cafodd y prawf newydd ei drio ar 190 o samplau gwaed. O’r rhain, roedd 21 ohonyn nhw yn cario’r clefyd. Llwyddodd y prawf i adnabod 15 ohonyn nhw – llwyddiant o 71%.

Manteision diagnosis

Er nad oes gwellhad i’w gael o’r clefyd ar hyn o bryd, byddai diagnosis cynnar yn helpu teuluoedd i wneud y mwyaf o’r amser sydd ar ôl ganddyn nhw, yn ôl yr athro John Collinge o’r Cyngor Ymchwil Meddygol.

“Bydd diagnosis cynharach yn rhoi mwy o amser i ddioddefwyr a’u teuluoedd i gynllunio beth maen nhw’n dymuno’i wneud yn yr amser sydd ar ôl ganddyn nhw,” meddai.

Ond ychwanegodd y byddai diagnosis cynnar yn gwneud gwir wahaniaeth unwaith y byddai triniaeth yn cael ei ddarganfod.

Mae’r Athro Collinge yn gwneud gwaith ymchwil i drin y clefyd ar hyn o bryd, ond dywedodd mai’r cam nesaf fyddai gwneud profion ar samplau gwaed gan miloedd o bobl er mwyn gweld sut mae’r profion yn llwyddo mewn arbrawf mwy estynedig.

“Bydd angen astudiaethau mwy hir-dymor er mwyn asesu faint o’r unigolion sy’n dangos eu bod nhw’n cario’r clefyd, fydd yn dioddef ohono yn y pen draw.”