Mae’r cyfnod yma o hunanynysu yn gyfle perffaith i danio diddordeb ym myd natur, yn ôl naturiaethwr amlwg.

Er bod trwch y boblogaeth bellach yn sownd dan do mae’r rheiny sydd â diddordeb mewn natur yn dal i bostio negeseuon yn rheolaidd ar dudalennau Facebook ‘Llên Natur’ a ‘Chymuned Llen Natur’.

Cylchgrawn natur yw Llên Natur sydd hefyd â phresenoldeb cryf ar-lein, ac ers dechrau’r lockdown mae wedi bod yn cyhoeddi tudalennau ‘Clwb y Llygaid Bach’ ar Facebook ac mewn print.

Mae’r tudalennau hyn yn rhestru anifeiliaid yr ardd, ac yn herio’r rheiny sy’n sownd yn eu tai i roi tic wrth bob anifail maen nhw’n ei weld.

Duncan Brown yw Golygydd Llên Natur, ac mae yntau’n gobeithio bydd ‘Clwb y Llygaid’ bach yn tanio diddordeb mewn natur ymhlith y to ifanc.

“Does dim byd yn sicr ond y gobaith ydy cyhoeddi o mewn rhyw ffurf, yn Gymraeg, nes ymlaen,” meddai.

“A dw i’n gobeithio cael rhyw fathodyn bach, y llygad bach, sydd wedi’i lunio ar ffurf y ddraig goch … yn wobr…. Hefyd mae o’n nodwedd o’r cylchgrawn erbyn hyn.

“Y syniad ydy bod o’n esblygu ac hwyrach nad ar ffurf llyfr fydd o yn y diwedd ond – achos bod plant cymaint ar-lein rŵan – rhyw fath o sustem ar-lein fydd o. Neu’r ddau.

“Hwyrach mai oedolion fydd yn gwneud o yn y diwedd!”

“Cyfnod arbrofol”

Mae’n dweud bod pump tudalen wedi’u cyhoeddi hyd yma, a bod y syniad yn “dal i ddatblygu” ac yn mynd trwy “gyfnod arbrofol”.

Mae’r gyfres wedi’i selio’n rhannol ar hen gyfres I Spy The Seaside, ac mae Duncan Brown yn dweud bod cyfrifon ar Facebook wedi croesawu atgyfodiad y syniad.

Wrth drafod agweddau’r ieuenctid at fyd natur mae’n dweud ei fod yn “dorcalonnus cymaint mae pobol ifanc i’w gweld yn ymbellhau oddi wrth natur. Mae’n beth rhyfedd.”

Gallwch ddarllen portread am Duncan Brown yn rhifyn nesa’ Golwg.