Mae gwenynwr o Gymru yn lansio gwisg cadw gwenyn ar gyfer merched, sydd “bron” yn saff o atal pigiadau.

Yn dilyn y galw gan wenynwyr benywaidd, mae gwenynwr a ffermwr o Gastell-nedd, Ian Roberts, wedi creu fersiwn benywaidd o’i wisg cadw gwenyn – sydd wedi’i anelu at wenynwyr a hobïwyr.

Datblygodd Ian Roberts y wisg Queen Bee yn dilyn galw gan nifer o wenynwyr benywaidd a oedd eisiau gwisg wedi’i theilwra’n well ar gyfer nodweddion y corff benywaidd.

“Mae yna dros 40,000 o wenynwyr cofrestredig ym Mhrydain, ac mae canran mawr ohonynt yn fenywod,” meddai Ian Roberts.

“Cefais sioc pan glywais nad oedd gwisg cadw gwenyn penodol i ferched ar gael.

“Felly, yn ogystal ag archwilio’r farchnad, dechreuais ymchwilio i feintiau dillad menywod cyn gwneud ychydig o ddyluniadau cychwynnol.”