Bydd bysys yn cymryd lle trenau rhwng Aberdaugleddau a Chaerfyrddin hyd at Ragfyr 22.

Mae Network Rail yn gwneud gwaith ar beiriannau rhwng Aberdaugleddau a Ffordd Clarbeston, gan gau’r holl reilffyrdd.

Mae’n debyg fod Network Rail yn tynnu coed oddi ar y cledrau hefyd.

Gallai’r siwrne bws gymryd hyd at 40 munud yn fwy na’r siwrne arferol ar drên.

Mae sawl person wedi cwyno na chafwyd digon o rybudd gan Network Rail am y newidiadau.