Bydd cyfres o gyfarfodydd yn cael eu cynnal ledled Cymru dros yr haf er mwyn gofyn sut y gall y diwydiant amaeth gyfrannu tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae sesiynau trafod ‘Iaith y Pridd’ yn cael eu trefnu gan Gyswllt Ffermio, a bydd ‘Bŵth Amaeth’ yn ymddangos mewn nifer o sioeau amaethyddol dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys y Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Y nod yw siarad â theuluoedd ffermio a chasglu eu barn ynglŷn â sut i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y diwydiant amaeth.

Yn ôl Cyswllt Ffermio, bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar ffurf “caseg eira”, lle bydd y prif bwyntiau o’r cyfarfod cyntaf yn cael eu trosglwyddo i’r cyfarfod nesaf, ac yn y blaen.

Cynyddu’r Gymraeg

“Mae gan yr iaith Gymraeg bresenoldeb amlwg o fewn amaethyddiaeth,” meddai Eirwen Williams, un o gyfarwyddwyr Menter a Busnes sy’n gyfrifol am drefnu’r cyfarfodydd.

“Felly, rydym am edrych i weld sut allwn ni adeiladu ar hyn, a chynyddu nifer y siaradwyr er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“O’n profiad ni, mae digonedd o syniadau gan y diwydiant amaeth, felly rydyn ni’n awyddus i gasglu barn, ac mae angen i ni siarad â theuluoedd amaeth er mwyn dod o hyd i atebion.”